Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (12) v5 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
|
4. Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts (15 munud) NNDM4724 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithredu o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: 1. Yn nodi bod Aled Roberts, pan gafodd ei ethol yn yr etholiad a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011 fel Aelod Cynulliad dros ranbarth etholiadol Gogledd Cymru, yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru, a’i fod felly wedi ei anghymwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad o dan adran 16(1) o’r Ddeddf ac Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010; 2. Hefyd yn nodi bod y sail ar gyfer anghymwyso nawr wedi’i diddymu; 3. Yn cytuno ei bod yn iawn fod y Cynulliad yn arfer ei bwerau o dan adran 17(3); a 4. Felly yn penderfynu bod gwaharddiad Aled Roberts rhag bod yn Aelod Cynulliad, ar sail yr hyn a nodir ym mharagraff 1, yn cael ei ddiystyru. Dogfennau ategol:
|
5. Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon - TYNNWYD YN ÔL (15 munud) |
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM4778 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau potensial llawn Cymdeithas Fawr Cymru, gan gydnabod bod y Wladwriaeth a Chymdeithas yn wahanol a bod angen y naill a’r llall arnom.
|
7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM4779 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi cyfran i gymunedau mewn datblygu economaidd a chymdeithasol; b) Diogelu gwasanaethau cyhoeddus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol gwledig; c) Diogelu dyfodol ffermydd teulu; a d) Rhoi'r cyfle i gymunedau reoli asedau cymunedol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt c): ‘a gwella llwyddiant ffermio teuluol drwy ddiwygio Glastir a diwygio cyfyngiadau cynllunio ar ffermwyr sy’n dymuno newid adeiladau segur ar eu tir yn gyfleusterau masnachol.’ Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Grymuso cymunedau drwy gyflwyno Bil Hawliau Cymunedol Amddiffyn cymunedau lleol drwy gefnogi busnesau lleol a mynnu bod asesiad effaith yn cael ei gynnal ar gyfer datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi yn ystod y broses gynllunio. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd taliadau cymhorthdal y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ffermydd teulu yng Nghymru yn ogystal â'r economi wledig ehangach, a drwy wneud hynny, parhau â dull gweithredu Llywodraeth flaenorol Cymru drwy roi sylwadau cryf i Lywodraeth y DU i wrthdroi ei galwad am "doriad sylweddol iawn i'r Gyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin yn ystod y Fframwaith Ariannol nesaf".
|
8. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw seilwaith cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyflwyno’r achos gerbron Llywodraeth y DU dros ddatganoli pwer dros brosiectau ynni hyd at 100MW; ac 2. Yn gresynu wrth y dryswch a fu yn sgil Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin ac yn credu mai dim ond drwy gynnal adolygiad cyhoeddus trwyadl o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) y bydd modd rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol a rhoi hwb i hyder y sector ynni adnewyddadwy. Gellir gweld
datganiad y Prif Weinidog drwy ddilyn y linc a
ganlyn: Gellir gweld
TAN8 drwy ddilyn y linc a ganlyn: Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth ac adroddiadau y mae wedi’u cynhyrchu yng nghyswllt datganoli prosiectau ynni dros 50MW. |
Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011